Sioe Sir Aberystwyth a Cheredigion

 

Mae Sioe Aberystwyth a Sir Ceredigion yn un o sioeau undydd mwyaf canolbarth Cymru. Caiff ei chynnal yn flynyddol ar ail ddydd Sadwrn mis Mehefin.

Gyda 1700 yn cofrestru i gystadlu mae safon uchel i’r cystadlu ac mae’n sioe genedlaethol i rai bridiau o ddefaid. Mae’n denu ymwelwyr o bob cwr o Gymru, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r diwydiant amaeth, cymunedau lleol, a’r cyhoedd.

Un o’n datblygiadau diweddaraf yw’r cneifio cyflym a’r ddawns fin nos, gyda pherfformiadau gan sêr pop Cymraeg megis Dafydd Iwan a Bryn Fôn.

Dewch i gwrdd â ffrindiau, trafod busnes a mwynhau cefn gwlad Ceredigion ar ei orau.

Diolch am ddangos diddordeb yn ein Sioe ni a gobeithiwn eich gweld chi yno!