Adran y Cynnyrch
Darganfyddwch beth sy’n gwneud y gacen Fictoria orau neu’r rhosyn dela, bydd gwledd i’ch llygaid yn y babell gynnyrch. Mae gan yr Adran Gynnyrch hefyd gystadlaethau crefftau gwledig traddodiadol, gwaith llaw, mêl, celf a ffotograffiaeth, ffrwythau a llysiau, gwin a chyffeithiau ac adran i’r CFfI.
Mae cystadlu brwd yn yr adran blant lle bydd ysgolion cynradd lleol yn mynd benben â’i gilydd i ennill y plac am y nifer fwyaf o bwyntiau.
Rhaid ymgeisio i gystadlu cyn y Sioe.