Cŵn

 

Ers ei sefydlu, mae ein hadran Campau Cŵn Campus yn tyfu o nerth i nerth, gan ddarparu diwrnod llawn hwyl i gŵn a’u perchnogion! Gyda dosbarthiadau ymddygiad, cydymffurfiaeth a chyflwr, dosbarthiadau hwyl, cystadlaethau adalw cyflym a chwrs rhwystrau – mae rhywbeth at ddant pawb. Mae pob dosbarth ar gyfer cŵn neu eist pur neu groesfrid oni nodir yn wahanol.

Mae’r holl elw a godir gan Gampau Cŵn Campus yn cael ei roi i elusen ac eleni byddwn yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru Rhif Elusen: 1083645

Mae beirniadu’n dechrau am 11:00am a gallwch gofrestru ar gychwyn pob dosbarth. Gallwch lawrlwytho’r llawlyfr yma.