Ceffylau

 

O gewri tyner y ceffylau gwedd i ferlod gwydn Ynysoedd y Sietland, mae amrywiaeth o fridiau ceffylau a merlod yn cystadlu yn Sioe Sir Aberystwyth a Cheredigion.

A ninnau yng nghadarnle’r cobiau Cymreig, mae’r Sioe yn cynnig Medal Arian unigryw i bencampwyr yr adrannau Cymreig A-D y dosbarthiadau mewn llaw, ac i bencampwr yr adran bridiau Cymreig o dan gyfrwy. Gall enillwyr dosbarthiadau Cymreig mewn llaw ac o dan gyfrwy gymhwyso i Sioe Genedlaethol Pencampwyr Cymreig a gynhelir yn Malvern. Mae manylion llawn ar gael yn y llawlyfr.

Mae’r Sioe wedi cofrestru gyda’r cymdeithasau canlynol: Shire Horse Society, Welsh Pony & Cob Society, Shetland Pony Stud Book Society, Chaps (UK) 19158, Veteran Horse Society.

Rydym yn parhau i dderbyn ceisiadau (na fydd yn ymddangos yn y catalog) tan 12 Mehefin 2025.

Beirniad yr Adran Yrru yw Mr AR Jones, (Cilybebyll) Pontardawe.