Gwybodaeth Bellach

Prisiau Mynediad Dydd

Oedolion £10 (£12 ar ddydd y sioe)

Plant Ysgol Uwchradd £5 (£6 ar ddydd y sioe)

Plant o dan 11 oed AM DDIM

Prynnwch nawr am bris gostyngol.

 

Tir

Cynhelir y Sioe ar gaeau pori, felly mae pob llwybr dynodedig ar laswelltir.

Cŵn

Mae croeso i ymwelwyr ddod â’i cŵn i faes y Sioe, cyn belled eu bod nhw’n eu cadw ar dennyn ac o dan reolaeth drwy gydol yr amser. Cyfrifoldeb perchnogion yw glanhau baw eu cŵn.

Nodwch nad oes hawl mynd â chŵn i’r babell gynnyrch na’r babell dofednod, yr unig eithriad yw cŵn tywys.

Golchi Dwylo

Argymhellwn fod unrhyw un sy’n dod i gyswllt agos gydag anifeiliaid yn golchi eu dwylo yn syth wedi hynny, a chyn bwyta.

Cyrraedd Yno

I’w chynnal ar gaeau Gelli Angharad ar yr A44 rhwng Aberystwyth a Chapel Bangor.

Côd Post ar gyfer Dyfais Lloeren: SY23 3HP

Bws Gwennol

Bydd bws wennol AM DDIM yn teithio rhwng gorsaf fysiau Aberystwyth (ger siop Mountain Warehouse) a’r cae sioe bob 30munud rhwng 09:30am a 4.00pm Bydd y bws olaf yn gadael maes y Sioe am 4:30pm.

Cadwch lygad ar agor am fws Mid Wales Travel.

Sioe Aberystwyth Show

Map o Faes y Sioe

Mynedfa A: Cyhoedd, Dofednod, Beirniaid, Adran Gŵn, Hen Beiriannau

What 3 Words: hwiangerdd.pweru.cliciwn

Entrance B: Da Byw, Ceffylau, Cynnyrch a Stondinau Masnach

What 3 words: stydi.curiadau.enw