Stondinau Masnach

 

Gydag arddangoswyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt, mae’r Sioe yn darparu cyfle gwych i hysbysebu a gwerthu eich cynnyrch, cynnig arbenigedd a chefnogi’r gymuned leol.

O flodau i foeleri biomas ac o gacennau i geir mae amrywiaeth o stondinau masnach yn y Sioe.

Cynhelir y Sioe ar gaeau a ddefnyddir at ddibenion pori a lleolir yr holl fasnachwyr y tu allan.

Rydym yn gwahodd tendrau ar gyfer bwyd a hufen iâ. Mae tendrau wedi’u dyfarnu ar gyfer 2023. Os hoffech chi gael eich gwahodd i dendro yn y dyfodol, llenwch y ffurflen “cysylltwch â ni” ar y wefan.

Bob blwyddyn, mae’r Sioe yn cynnig stondin masnach rydd i dair elusen ddynodedig. Os hoffai’ch elusen gael ei hystyried ar gyfer 2024, gwnewch gais ysgrifenedig.

Dewch i ymuno â ni!