Arddangosfa Ceir Clasurol
Cychwynnodd Clwb Ceir Clasurol Aberystwyth ym mis Tachwedd 2021 wedi i gyfyngiadau Covid cael eu codi. Mae’n cyfle i unrhywun sydd â diddordeb mewn hen geir a cheir clasurol yng ngogledd Ceredigion i gwrdd yn rheolaidd.
Mae’r clwb yn cwrdd unwaith y mis, ar drydydd dydd Sul y mis rhwng 10:00 a 12:00 yng ngwesty Llety Parc, Aberystwyth SY23 3TL.
Erbyn heddiw, mae ganddynt 183 o aelodau gyda cherbydau yn amrywio o MORRIS COWLEY Flat Nose gyda olwynion pren o’r flwyddyn 1928, hyd at Ferrari 296 GTB, a phob math o geir eraill.

Ar ddydd calan eleni, gwnaethon gynnal Sioe Ceir Clasurol Elusennol yn Llety Parc, lle codwyd dros £600 at Apêl Chemotherapi Bronglais – gweler mwy yn y fideo.
Er mwyn derbyn cylchlythyr misol ac i ymuno gydag eraill sydd â diddordeb mewn ceir clasurol, ewch i www.aberystwythsvcmotorclub.co.uk a llenwi’r ffurflen gofrestru – mae aelodaeth am ddim ac mae croeso i bawb.
Adloniant y Nos
Bydd gwybodaeth am ein arlwy adloniant nos yn 2024 yn dod yn fuan…

Ardal y Plant
Mae gan ardal y plant ystod o weithgareddau, gan gynnwys
- Reidiau Asynnod
- Reidiau Ffair
- Paentio Wynebau
- Hwyl Chwaraeon
